{"id":474,"date":"2023-07-28T10:11:17","date_gmt":"2023-07-28T10:11:17","guid":{"rendered":"https:\/\/trysor.net\/?page_id=474"},"modified":"2024-11-10T11:59:37","modified_gmt":"2024-11-10T11:59:37","slug":"elan-valley","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/trysor.net\/cy\/portfolio\/elan-valley\/","title":{"rendered":"Cwm Elan"},"content":{"rendered":"<p><div id=\"attachment_468\" style=\"width: 664px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><a href=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Platform-1-scaled.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-468\" class=\"size-large wp-image-468\" src=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Platform-1-1024x499.jpg\" alt=\"Image shows an earthwork platform in the Elan Valley.\" width=\"654\" height=\"319\" srcset=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Platform-1-1024x499.jpg 1024w, https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Platform-1-300x146.jpg 300w, https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Platform-1-1536x749.jpg 1536w, https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Platform-1-2048x999.jpg 2048w, https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Platform-1-2x1.jpg 2w\" sizes=\"auto, (max-width: 654px) 100vw, 654px\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-468\" class=\"wp-caption-text\">Llwyfan gwrthglawdd yng Nghwm Elan<\/p><\/div><\/p>\n<p>Dros y 15 mlynedd diwethaf rydym wedi treulio dros 30 wythnos yn cerdded Stad Cwm Elan a chofnodi ei harchaeoleg ac wedi dod i adnabod y rhan fwyaf o\u2019r ardal yn dda iawn.<\/p>\n<p>Yn 2009\/2010 a 2011\/2012 fe wnaethom gynnal arolygon maes o\u2019r ardaloedd i\u2019r gogledd-orllewin o\u2019r cronfeydd d\u0175r ar gyfer CBHC fel rhan o\u2019r cynllun Arolwg Menter yr Uwchdiroedd. Bwriad yr ymarfer hwn o gerdded maes oedd i gofnodi unrhyw nodweddion archaeolegol y gellir eu hadnabod ar wyneb y ddaear, gan gynnwys safleoedd fel carneddau claddu o\u2019r Oes Efydd, llwyfannau cytiau canoloesol, bythynnod \u00f4l-ganoloesol a nodweddion yn gysylltiedig \u00e2 dyfodiad y cronfeydd d\u0175r ar ddiwedd y 1890au. Daethom o hyd i lawer o safleoedd nad oeddent wedi&#8217;u cofnodi o\u2019r blaen. Mae dolenni i gop\u00efau o\u2019n hadroddiadau wedi\u2019u cynnwys isod, a thrwy chwilio ar NPRN (Rhif Cofnodi Sylfaenol Cenedlaethol) pob safle ar Coflein gallwch weld unrhyw luniau a dynnwyd ohonynt.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Elenydd-North-Part-One.pdf\">Gogledd Elenydd Rhan Un (Saesneg)<\/a> a <a href=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Elenydd-North-Part-Two.pdf\">Gogledd Elenydd Rhan Dau (Saesneg)<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Elenydd-Central-Part-One.pdf\">Elenydd Ganol Rhan Un (Saesneg)<\/a> ac <a href=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Elenydd-Central-Part-Two.pdf\">Elenydd Ganol Rhan Dau (Saesneg)<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Elenydd-South-Part-One.pdf\">De Elenydd Rhan Un (Saesneg)<\/a> a <a href=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Elenydd-South-Part-Two.pdf\">De Elenydd Rhan Dau (Saesneg)<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Uplands-Initiative-Cwm-Ystwyth-Cwm-Mwyro-Part-One-small.pdf\">Cwm Ystwyth Cwm Mwyro Rhan Un (Saesneg)<\/a> a <a href=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Uplands-Initiative-Cwmystwyth-Part-2.pdf\">Cwm Ystwyth Cwm Mwyro Rhan Dau (Saesneg)<\/a><\/p>\n<p>Er mwyn i ni allu rhannu&#8217;r hyn yr oeddem wedi&#8217;i ddarganfod, cynigon ni deithiau cerdded tywysedig blynyddol am ddim i Ymddiriedolaeth Cwm Elan yn ystod wythnosau\u2019r \u0174yl Archaeoleg cyn cyfnod Cofid-19.<\/p>\n<p>Buom,hefyd, yn helpu gyda gwaith yng ngwaith mwynglawdd Cwm Elan, gan gloddio pyllau prawf bach i sicrhau na fyddai&#8217;r archaeoleg yn cael ei niweidio pan fyddai atgyweiriadau&#8217;n cael eu gwneud. Fe wnaethom hefyd gynnal cofnod adeiladu o&#8217;r adeiladau yng Nghwm Clyd cyn iddynt gael eu haddasu.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Cwm-Elan-Mine-Test-Pit-Report-small.pdf\">Efail Mwynglawdd Cwm Elan (Saesneg)<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Cwm-Elan-Mine-Wheel-Pit-Report-small.pdf\">Pwll Olwyn Mwynglawdd Cwm Elan (Saesneg)<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Cwmclyd-Level-2-Building-Recording-Report-small-1.pdf\">Cofnod Adeilad Lefel 2 Cwmclyd (Saesneg)<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Cwmclyd-Bungalow-Report-small.pdf\">Byngalo Cwmclyd (Saesneg)<\/a><\/p>\n<p>Yn 2016 a 2017 fe wnaethom chwarae rhan yn natblygiad yr hyn a ddaeth yn brosiect Dolenni Elan a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Fe wnaethom ni ddisgrifio nodweddion tirwedd ardal Ymddiriedolaeth Cwm Elan gan edrych ar yr hyn sy&#8217;n gwneud ardaloedd o&#8217;r dirwedd yn arbennig a chynhaliwyd Arolwg Treftadaeth Mewn Perygl yn ogyst\u00e2l, gan wirio&#8217;r cofnod archaeolegol ynghylch pa safleoedd a allai gael eu difrodi.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Elan-Links-Statement-of-Significance-April-2024.pdf\">Dolenni Elan Datganiad o Arwyddoc\u00e2d (rha o\u2019r cais i\u2019r Loteri Genedlaethol)<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Elan-Links-Landscape-Characterisation-June-2017-2016-517.pdf\">Dolenni Elan: Nodweddion Tirwedd Elan (Saesneg)<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Elan-Links-Heritage-at-Risk-Final-Version-Part-One-2017-542.pdf\">Dolenni Elan: Treftadaeth Dan Fygythiad Rhan Un (Saesneg)<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Elan-Links-Heritage-at-Risk-Final-Version-Part-Two-2017-542.pdf\">Dolenni Elan: Treftadaeth Dan Fygythiad Rhan Dau (Saesneg)<\/a><\/p>\n<p>Ar \u00f4l hynny, fel rhan o gynllun Dolenni Elan, buom yn archwilio safle Maen Hir, carnedd Carn Ricet a lloc yn Lluest Abercathon.<\/p>\n<p>Maen Hir &#8211; crynodeb o&#8217;r gwaith eto i ddod ond dyma <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=L9ge_OBqxDw&amp;t=2s\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">ddolen i sgwrs a gawsom ar-lein<\/a> am y safle<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Carn-Ricet-Report.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Carn Ricket Adroddiad (Saesneg)<\/a> ac fe wnaethom roi <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=vLDWoLb1TUo&amp;t=41s\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">cyflwyniad ar-lein<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Lluest-Abercaethon-Evalution-Report.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Gwerthuso Lloc Lluest Abercaethon (Saesneg)<\/a> ac fe wnaethom roi <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=xZQTkk8-RaM&amp;t=22s\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">cyflwyniad ar-lein<\/a><\/p>\n<p>Y darn mwyaf o waith yr ydym wedi&#8217;i wneud o bell ffordd yw ailarolwg o ardaloedd i&#8217;r dwyrain ac i&#8217;r de o&#8217;r cronfeydd d\u0175r &#8211; 68 cilomedr sgw\u00e2r i gyd. Gohiriodd Cofid-19 ddechrau\u2019r arolwg maes, a gwnaed y rhan fwyaf ohono yn 2022. Daethom o hyd i rai safleoedd anhygoel, a mwy na dyblu\u2019r nifer a gofnodwyd. Un o&#8217;r safleoedd mwyaf sobreiddiol y daethom o hyd iddo oedd safle damwain awyr Halifax LL541, darllenwch fwy yma.<\/p>\n<p>Mae ein hadroddiad ar yr arolwg ar gael isod mewn tair adran.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Elan-Links-Survey-Part-1-report-Final-small-revised-May-2024.pdf\">Dolenni Elan 2022-2023 Arolwg yr Uwchdiroedd (Saesneg)<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Elan-LInks-Survey-2022-Part-2A-Site-Gazetteer-Revised-May-2024.pdf\">Dolenni Elan 2022-2023 Rhan 2A Rhestr o Safleoedd (Saesneg)<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Elan-Links-Survey-2022-Part-2B-Maps-Revised-May-2024.pdf\">Dolenni Elan 2022-2023 Rhan 2B Mapiau (Saesneg)<\/a><\/p>\n<p>Fe wnaethon ni <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=fzesTW40SGc&amp;t=22s\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">roi sgwrs yn Carad<\/a> ar Hydref 2022, ar \u00f4l i ni orffen y gwaith maes ,ac <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=w9YlYq1DCO4&amp;t=57s\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">ateb cwestiynau<\/a> wedyn.<\/p>\n<p>Gallwch hefyd <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=3yo-ZQO3O0E&amp;t=13s\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">wylio\u2019r sgwrs<\/a> a roddwyd am yr arolwg i ysgol undydd a drefnwyd ar y cud gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys a Chyngor Archaeoleg Prydain Cymru ym mis Tachwedd 2023.<\/p>\n<p>Fe wnaethon ni roi sgwrs i Ymddiriedolaeth Treftadaeth Abaty Cwmhir yn eu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Mai 2024 y gallwch chi ei <a href=\"https:\/\/abbeycwmhir.org\/talks\/hall-sambrook\/\">wylio yma.<\/a><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dros y 15 mlynedd diwethaf rydym wedi treulio dros 30 wythnos yn cerdded Stad Cwm Elan a chofnodi ei harchaeoleg ac wedi dod i adnabod y rhan fwyaf o\u2019r ardal yn dda iawn. Yn 2009\/2010 a 2011\/2012 fe wnaethom gynnal arolygon maes o\u2019r ardaloedd i\u2019r gogledd-orllewin o\u2019r cronfeydd d\u0175r ar gyfer CBHC fel rhan o\u2019r&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":11,"menu_order":0,"comment_status":"open","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-474","page","type-page","status-publish","hentry","category-portfolio"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/trysor.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/474","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/trysor.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/trysor.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/trysor.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/trysor.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=474"}],"version-history":[{"count":26,"href":"https:\/\/trysor.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/474\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":576,"href":"https:\/\/trysor.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/474\/revisions\/576"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/trysor.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/11"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/trysor.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=474"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/trysor.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=474"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/trysor.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=474"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}