{"id":537,"date":"2024-11-10T11:55:04","date_gmt":"2024-11-10T11:55:04","guid":{"rendered":"https:\/\/trysor.net\/?page_id=537"},"modified":"2024-11-13T09:30:04","modified_gmt":"2024-11-13T09:30:04","slug":"december-12th-1944-the-last-flight-of-royal-canadian-airforce-halifax-ll541","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/trysor.net\/cy\/portfolio\/december-12th-1944-the-last-flight-of-royal-canadian-airforce-halifax-ll541\/","title":{"rendered":"Rhagfyr 12fed, 1944 &#8211; Taith Olaf Halifax LL541 o Awyrlu Brenhinol Canada"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Composite-2-scaled.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-large wp-image-611\" src=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Composite-2-1024x268.jpg\" alt=\"\" width=\"654\" height=\"171\" srcset=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Composite-2-1024x268.jpg 1024w, https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Composite-2-300x78.jpg 300w, https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Composite-2-1536x402.jpg 1536w, https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Composite-2-2048x536.jpg 2048w, https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Composite-2-4x1.jpg 4w\" sizes=\"auto, (max-width: 654px) 100vw, 654px\" \/><\/a><\/p>\n<p>Oddeutu 1 o&#8217;r gloch ar brynhawn Rhagfyr 12fed, 1944, synnwyd trigolion Rhaeadr Gwy a&#8217;r cylch wrth weld awyren fomio Handley Page Halifax yn dod allan o&#8217;r cymylau uwchben y dref, yn amlwg mewn trafferth. Roedd yr awyren yn brwydro i godi uchder ac roedd rhannau ohoni&#8217;n torri i ffwrdd wrth iddi hedfan dros y dref. Ychydig yn ddiweddarach, am 1.03 o\u2019r gloch, daeth yr awyren i lawr ar ben mynydd Penybwlch, i&#8217;r gorllewin o Raeadr Gwy, gyda llawer o drigolion y fro yn dyst i\u2019r digwyddiad.<\/p>\n<p>Yr awyren dan sylw oedd un o awyrennau bomio Llu Awyr Brenhinol Canada (RCAF), Halifax LL541. Roedd yn cymryd rhan mewn ymarferion hyfforddi y dydd hwnnw, o&#8217;i ganolfan yn RAF Dishforth, Swydd Efrog. Ei nod oedd hedfan allan i Fae Ceredigion ac yna dychwelyd i RAF Dishforth.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Halifax-mk3-v1.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-full wp-image-619\" src=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Halifax-mk3-v1.jpg\" alt=\"\" width=\"500\" height=\"313\" srcset=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Halifax-mk3-v1.jpg 500w, https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Halifax-mk3-v1-300x188.jpg 300w, https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Halifax-mk3-v1-2x1.jpg 2w\" sizes=\"auto, (max-width: 500px) 100vw, 500px\" \/><\/a><\/p>\n<p>Ar y daith dyngedfennol honno, roedd gan LL541 saith aelod ei chriw rheolaidd, ynghyd ag un dyn ychwanegol. Roedd pob un o&#8217;r 8 yn Ganadiaid yn gwasanaethu yn yr RCAF, sef;<\/p>\n<p>Pilot Officer Gerald Lister (Pilot), 22 oed.<\/p>\n<p>Flying Officer Ernest Brautigam (Navigator), 19 oed.<\/p>\n<p>Flight Sergeant David Levine (Bomb Aimer), 23 oed.<\/p>\n<p>Flight Sergeant John Overland (Air Gunner), 19 oed.<\/p>\n<p>Flight Sergeant Grant Goehring (Air Gunner), 21 oed.<\/p>\n<p>Flight Sergeant James Preece (Wireless Operator\/Air Gunner), 20 oed.<\/p>\n<p>Sergeant Frank Willmek (Flight Engineer), 23 oed.<\/p>\n<p>Flight Sergeant Allan McMurtry (Flight Engineer), 22 oed.<\/p>\n<p>Mwy o fanylion am bob un o&#8217;r dynion <a href=\"https:\/\/caspir.warplane.com\/pdoc\/pn\/600011521\/\">yma<\/a><\/p>\n<p>Mae&#8217;n bosibl mai F\/Sgt McMurtry oedd yr aelod criw ychwanegol oedd yn hedfan gyda chriw LL541 y diwrnod hwnnw. Mewn llythyr gan dad yr F\/Sgt Goehring at yr awdurdodau yn holi ar \u00f4l teuluoedd cyd-aelodau criw ei fab, sonnir am bob un ar wah\u00e2n i McMurtry yn awgrymu nad oedd yn aelod rheolaidd o\u2019r criw.<\/p>\n<p>\u2018Does neb yn gwybod pam y collodd Halifax LL541 reolaeth cyn dod i lawr ar y mynydd. Awgrymwyd y gallai\u2019r peilot fod wedi dioddef o ddiffyg ocsigen a llewygu, gan achosi\u2019r awyren i blymio a niweidio ffr\u00e2myn yr awyren. Efallai ei fod wedi dod at ei hunan eto ac wedi ceisio adennill rheolaeth o\u2019r awyren ond wedi methu \u00e2 chlirio&#8217;r bryniau i&#8217;r gorllewin o Raeadr Gwy.<\/p>\n<p>Daeth yr awyren i lawr yn drwm ar ochr ddeheuol Penybwlch, gan ladd pawb oedd ar ei bwrdd. Roedd tri o&#8217;r criw wedi llwyddo i neidio allan cyn y trawiad, ond ar uchder rhy isel iddynt agor eu parasiwtiau. Buont hwythau farw.<\/p>\n<p>Cafodd yr awdurdodau eu rhybuddio gan yr heddlu lleol a daethant i&#8217;r lleoliad yn gyflym. Yn ystod yr wythnos ganlynol cafodd olion yr awyren eu symud o&#8217;r mynydd. Claddwyd y criw ym Mynwent Blacon, Caer, a oedd wedi\u2019i dynodi\u2019n Fynwent Ranbarthol i\u2019r Awyrlu Brenhinol ym 1943. Maent yn gorwedd ochr yn ochr \u00e2 bron i 400 o griwiau awyr eraill a fu farw yng ngorllewin Prydain yn ystod y rhyfel, hanner ohonynt yn gyd-Ganadiaid. Mae&#8217;r fynwent bellach yn Fynwent Rhyfel y Gymanwlad a gynhelir gan Gomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Lister-Row-View.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-large wp-image-544\" src=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Lister-Row-View-1024x768.jpg\" alt=\"\" width=\"654\" height=\"491\" srcset=\"https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Lister-Row-View-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Lister-Row-View-300x225.jpg 300w, https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Lister-Row-View-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Lister-Row-View-1x1.jpg 1w, https:\/\/trysor.net\/wp-content\/uploads\/Lister-Row-View.jpg 2016w\" sizes=\"auto, (max-width: 654px) 100vw, 654px\" \/><\/a><\/p>\n<p>Heddiw, does fawr ddim i nodi safle damwain Halifax LL541. Mae yna graith hir ar ochr y bryn. sy\u2019n nodi\u2019n glir yn man gwnaeth yr awyren plymio i\u2019r ddaear, ond nid oes cofeb arall yno i\u2019r 8 o Ganadiaid ifanc, dewr a ddaeth i ymladd dros ein rhyddid a gwneud yr aberth eithaf.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Oddeutu 1 o&#8217;r gloch ar brynhawn Rhagfyr 12fed, 1944, synnwyd trigolion Rhaeadr Gwy a&#8217;r cylch wrth weld awyren fomio Handley Page Halifax yn dod allan o&#8217;r cymylau uwchben y dref, yn amlwg mewn trafferth. Roedd yr awyren yn brwydro i godi uchder ac roedd rhannau ohoni&#8217;n torri i ffwrdd wrth iddi hedfan dros y dref&#8230;.<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":11,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-537","page","type-page","status-publish","hentry","category-portfolio"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/trysor.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/537","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/trysor.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/trysor.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/trysor.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/trysor.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=537"}],"version-history":[{"count":29,"href":"https:\/\/trysor.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/537\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":629,"href":"https:\/\/trysor.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/537\/revisions\/629"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/trysor.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/11"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/trysor.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=537"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/trysor.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=537"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/trysor.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=537"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}