Paul Sambrook

Derbynais radd yn Archaeoleg a Chymraeg (BA Cyd-anrhydedd) oddi wrth Coleg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan yn 1986. Derbynais Tystysgrif Addysg Ol-radd oddi wrth Coleg y Drindod, Caerfyrddin yn 1993 hefyd. Ar ôl graddïo, bues i’n gweithio fel arolygydd maes gydag Arolwg Archaeolegol Ceredigion ac yna fel Cynorthwyydd Safle a Swyddog Addysg i Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro ar safle Castell Henllys, bryngaer Oes Haearn sydd wedi ei ail-greu.

Rhwng 1994 a 2004 bues i’n gweithio fel Swyddog Prosiectau gydag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed. Yno, ges i’r profiad o weithio ar amryw o brosiectau yng ngorllewin a chanolbarth Cymru. Roedd rhain yn cynnwy astudio Anheddiadau Anghyfanedd Gwledig, Mwyngloddiau, Arolygon Uwchdirol a’r brosiect amaeth-amgylcheddol Tir Gofal.  Roeddwn hefyd yn gyfrifol am greu Cynllun Ymestyn i’r Ymddiriedolaeth a chael cyfle i adeiladau ar y diddordeb mawr sydd gyda fi yn hanes ac archaeoleg cymunedol.

Ers cychwyn Trysor gyda Jenny Hall yn 2004, rwy wedi cael cyfle datblygu fy sgiliau fel archaeolegydd maes, gan gymryd rhan mewn cyfres o arolygon Uwchdirol ar draws Cymru, yn ogystal â gweithio ar nifer fawr o asesiadau penfwrdd, brîffau gwylio a gwerthusiadau.

Rwy hefyd wedi cael cyfle i wneud rhagor o brosiectau cymunedol, gan gynnwy llawer o brosiectau dehongli paneli. Rwyf yn Gymro Cymraeg ac yn hoff iawn o weithio yn ddwyieithog, yn enwedig wrth weithio â grwpiau cymunedol.