aboutus

Ymgynghorwyr treftadaeth yw Trysor, sydd wedi’i lleoli yng ngorllewin Cymru ond sy’n gweithio ar draws Cymru a thu hwnt. Ers 2004, rydym wedi cynnig amryw o wasanaethau treftadaeth ac archaeolegol i’n gleientiaid.

Partneriaeth bach yw Trysor, gyda chostau cyffredinol isel a’r gallu i weithio’n hyblyg a chynnig ein gwasanaethau am bris cystadleuol iawn. Mae’r ddau bartner yn archaeolegwyr profiadol cymwysedig gyda dealltwriaeth ardderchog o’r amgylchedd hanesyddol a threftadaeth diwylliannol. Mae Trysor yn Gwmni Cofrestredig gyda Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr.

Rydym wastad yn hapus iawn i sgyrsio â darpar gleientiaid os gallwn fod o gymorth i’ch helpu chi ddatblygu eich syniadau neu brosiectau.

Sefydlwyd Trysor gan Jenny Hall a Paul Sambrook yn 2004. Mae’r ddau bartner yn archaeolegwyr a proffesiynolwyr treftadaeth profiadol. Ni sy’n cymryd cyfrifoldeb am wneud y rhan fwyaf o waith Trysor.  Ar brosiectau mawr, rydym yn cydweithio â gweithwyr cymwysedig neu wasanaethau arbenigol i sicrhau ein bod yn cyflawni gwaith o’r ansawdd uchaf.