Jenny Hall

Ar ôl graddïo mewn Archaeoleg a Daeareg (BSc Cyd-anrhydedd) ym Mhrifysgol Birmingham yn 1984, treuliais 8 mlynedd yn gweithio ar brosiectau archaeolegol ar draws Lloegr a’r Alban.  Roedd rhain yn cynnwys cloddiadau mawr fel Fila Rhufeinig Stanwick a Phriordy Sandwell, ac hefyd gwaith ôl-cloddio. Yn 1992 symudais i Gymru i ddechrau teulu ac, o 1993, bues yn gweithio i Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed fel Swyddog y Cofnod Safleoedd a Henebion.

Yn 2004, symudais ymlaen i sefydlu Trysor gyda Paul Sambrook.  Ers hynny, rwy wedi cael cyfle i weithio ar ystod eang o brosiectau, gan gynnwys llawer o brosiectau cymunedol yn ogystal â gwaith archaeolegol traddodiadol fel Arolygon Uwchdirol, asesiadau penfwrdd, brîffau gwylio a gwerthusiadau archaeolegol.

Mae dawn arbennig gyda fi gwneud gwaith bâs-ddata, GIS a thaenlenni. Rwy’n mwynhau defnyddio’r dulliau hyn i wneud gwybodaeth archaeolegol a hanesyddol yn agored i bawb.