Mae bron yn ddiwedd blwyddyn arall, ac rydym yn myfyrio ar y lleoedd yr ydym wedi bod a’r cysylltiadau â’r gorffennol yr ydym wedi’u harchwilio. Wrth i Covid gilio fe wnaethon ni ddychwelyd i ryw fath o normalrwydd. Darllenwch ein cylchlythyr i ddarganfod mwy a dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi.
Edrych yn ôl dros 2021
Oherwydd ein hymdrechion parhaol i gadw mas o ffordd Clefyd y Cofid, mae’n debyg ein bod ni wedi esgeuluso diweddaru’r tudalen newyddion ers oesau! Wrth i Nadolig 2021 basio, a meddyliau pawb yn troi at y Flwyddyn Newydd, gallwch edrych ar ein cylchlythyr blynyddol ar gyfer 2021 yma i ddal lan â’n gweithgareddau dros y flwyddyn ddiwethaf.
Coronavirus
Yng ngolwg canllawiau diweddara’r llywodraeth rydym yn atal pob gwaith maes am y tro. Byddwn yn dal i weithio o gartre i gynnig ein gwasanaethau archaeolegol. Aros gartre yw’r ffordd orau o atal y clefyd hwn a dychwelyd i normalrwydd. Rhaid rhoi diogelwch o flaen popeth arall!
Ysgolion
Dim ymddiheuriadau, ond eleni rydym wedi trio tynnu sylw at yr angen i ofalu ar ôl hen ysgolion ein gwlad, sydd yn diflannu yn gyflym, yn aml heb i neb wneud cofnod ohonynt. Mae ysgolion yn adeiladau cymunedol pwysig iawn Cwrt Sart ac o safbwynt eu lle yn ein hanes, diwylliant a threftadaeth. Tynnwyd ein sylw at y mater pan gafodd hen ysgol Cwrt Sart, Llansawel, Castell Nedd ei bwrw i lawr yn ddisymwth. Cysyllton ni â Bethan Sayed AC, aelod cynulliad lleol, ac fe aeth hi ymlaen i godi’r mater gyda Cadw a Gweinidog Treftadaeth Cymru. Yn sgil hynny, gwnaethom gario allan arolwg ffotograffig gwirfoddol o Ysgol Cymer Afan, yn agos i Port Talbot, fel yr oedd contractwyr yn dechrau’r gwaith o ddymchwel yr adeiladau i gyd. Gallwch Cymer Afan ddisgwyl i ni ddychwelyd at y pwnc eto yn ystod y flwyddyn i ddod, trwy @YsgolWales ar Twitter!
Blwyddyn Newydd Dda i Bawb!
Mae blwyddyn arall yn tynnu at ei diwedd a’r amser wedi dod i fwrw golwg ‘nôl dros y 12 mis sydd wedi pasio oddi ar ein cylchlythyr diwethaf.
Blwyddyn o ddod i arfer â llwyth o ganllawiau a deddfau newydd oedd hon yng Nghymru – tasg sydd wedi gofyn am gryn ymdrech. Mae Trysor wedi cario ymlaen yn dawel bach, yn y cefndir, yn mwynhau’r haf gorau a welsom erioed, o Fis Mai nes Mis Awst. Uchafbwynt ein blwyddyn oedd cael lwmpyn o slag haearn a dyddiad radiocarbon o’r Oesoedd Tywyll allan o ffos yn Sir Drefaldwyn.
Tra bod pethau bach syml fel hynny yn ein diddanu ni, mae Brexit wedi perchnogi’r penawdau, dreigiau wedi nythu yng nghestyll enwocaf Cymru a sibrydion wedi codi’n ddiweddar am ddarganfyddiad cerbyd rhyfel Celtaidd yng nghanol cae wedi siglo’r seiliau yn Sir Benfro, ond rydym yn siŵr o glywed mwy am y stori hon yn ystod 2019.
Blwyddyn Newydd Dda
Mae blwyddyn arall wedi pasio ac mae Trysor wedi addasu i’r holl newid sydd wedi dod o fewn y 12 mis diwethaf. Cofiwn am 2016 am nifer o resymau ar wahân i’r golled o nifer o enwogion a sêr. Ym Mis Gorffennaf, symudodd Paul ac
Ann o Sir Benfro i wneud eu cartre newydd yn ardal Castell Nedd. Mae hyn yn golygu bod dau bartner Trysor Bellach yn byw yn yr un sir – Castell Nedd a Phort
Talbot! Fe all hyn olygu taw Trysor yw partneriaeth treftadaeth flaenaf (unig) y sir! Pwy sy’n gwybod?
Eleni daeth elfennau o’r Bil Treftadaeth newydd i Gymru i rym, ond bydd rhaid aros i weld effaith hynny ar y sectortreftadaeth. Ansicrwydd yw prif nodwedd y flwyddyn o bosib, gyda Brexit yn dominyddu’r newyddion a newidiadau polisi’r llywodraeth yn San Steffan yn effeithio maes ynni adnewyddiol ac yn achosi cwymp yn y nifer o gynlluniau gwynt neu ynni’r haul o gwmpas Cymru. Rhaid
gobeithio daw mwy o eglurdeb yn 2017!
Beth bynnag addaw, dymunwn bob llwyddiant i bob un ohonoch!
Blwyddyn Newydd Dda i bawb!
Sir Frycheiniog
Yn ystod yr haf, buom yn gwerthuso effaith dau brosiect ynni hydro yn yr hen Sir Frycheiniog, ger Crai a Llangatwg. Roedd y ddau brosiect yn cynnwys cloddio ar draws hen dramffyrdd. Ar safle Llangatwg bu’n rhaid cloddio hen wal guddiedig yn ymyl safle Fferm y Cwm, fferm sydd wedi dadfeilio ers dros 150 mlynedd., Yno, daethom ar draws crochenwaith o’r 18fed a 19eg ganrif a darnau bach o blwm oedd, o bosibl, yn gysylltiedig â gwneud peletau plwm ar gyfer gynnau saethu.
Alberbury, Shropshire
Ym Mis Gorffennaf gawsom y pleser o ddychwelyd i bentre Alberbury, Swydd
Amwythig i gloddio o fewn gardd furog plas Parc Loton, lle ganfûm olion tŷ canoloesol. Ymhlith ein darganfyddiadau oedd dwsinau o hoelion haearn, darn o ganhwyllbren bres a phin clogyn syml. Dyddiad radiocarbon y safle oedd rhwng
1410 a 1445 OC.
Llanarthne
Eglwys Holy Cross, Taibach, ger Margam
Fe gaewyd Eglwys y Groes, Taibach, Port Talbot rhai blynyddoedd yn ôl. Bu’n eglwys heb gyfeillion am gyfnod, ond ar ôl siarad am droi’r hen le imewn i dy annedd, camodd teulu â chysylltiadau â’r achos i mewn a
addasu i fod yn Gapel Gorffwys. Cawsom gyfle i gofnodi’r adeilad, tu fewn a tu fas a dysgu rhywbeth am hanes pentre Taibach, sydd wedi cael ei torri’n ddwy gan yr M4 erbyn hyn.
Anrhufeinig
Ym mis Mawrth 2016 buon ni yn ardal Llanymynech, Powys, yn chwilio am olion gaer Rufeinig honedig ar fferm leol. Ar ôl astudio ffynonellau hanesyddol, gwneud arolwg geoffisegol, cerdded y tir ac agor nifer o ffosydd, daethom i’r casgliad nad oes unrhyw dystiolaeth o gwbl am Gaer Clawdd Coch.
Mis yn ddiweddarach, ym Manwen, ger Castell Nedd, roeddem yn gyfrifol am gario allan brîff gwylio i chwilio am yr heol Rufeinig i Aberhonddu ‘chwaith. Er nad oedd sôn am yr heol Rufeinig, fe welsom fosaig hyfryd yn y pentref sy’n cofnodi’r presenoldeb gaer a’r ffordd Rufeinig yn yr ardal.
Elan Links: Pobl, Natur, Dŵr
Dau brosiect arall sy ar y gweill yw asesu safleoedd archaeolegol sydd dan fygythiad ac hefyd diffinio nodweddion y tirwedd hanesyddol yn Ystad Cwm Elan, Powys i Ymddiriedolaeth Cwm Elan.
Mae’r cyfle i adolygu holl gofnodion archaeolegol yr ardal er mwyn rhestru safleoedd dan fygythiad ac sydd angen rheolaeth yn un werthfawr a diddorol iawn.
Cydweli
Llangynnwr
Rydym ar hyn o bryd yn paratoi 7 panel dehongli treftadaeth a thaflen ar gyfer
pentref Llangynnwr, Sir Gaerfyrddin, ar y cyd gyda’r dylunwyr Phil Wait ac Alan
Williams. Bydd y paneli yn olrhain hanes yr ardal. Mae hanes y fro yn yn
gyfoethog iawn ac yn cynnwys hanes yr eglwys plwyf hynafol, y gerdd enwog
“Llangunnor Hill”, straeon am y Rhufeiniad, mwynglawdd plwm ac hyd yn oed
gwaith daeregwyr cynnar a ddaeth yma i astudio trilobites yn gynnar yn y
19eg ganrif.
Pendinas, Penparcau
Rydym hefyd yng nghanol gweithio gyda Grwp Hanes a Threftadaeth Penparcau, Aberystwyth i chwilio i mewn i hanes Bryngaer Pendinas, sydd yn dominyddu eu chymuned. Gyda sesiynau misol , rydym yn edrych yn drylwyr iawn ar wahanol agweddau o hanes y bryngaer gyda phobol leol.
Yr olygfa o’r bryniau…
Er bod gwaith Menter yr Uwchdiroedd wedi dod i ben, rydym yn dal i ymddiddori cymaint ag erioed yn
archaeoleg a thirwedd mynyddoedd Cymru. Ym Mis Gorffennaf, i nodi Gŵyl Archaeoleg 2016, roedd Trysor wedi cynnal dau ddigwyddiad, sef Taith Gerdded i Lyn Gynon, Elenydd a Phicnig Archaeolegol ym Mhont ar Elan, Dyffryn Elan.
Tra oedd y daith gerdded wedi mwynhau diwrnod hyfryd , daeth glaw diflas i sbwylio ‘r picnig ac roedd rhaid gohirio’r digwyddiad.. Fel ‘na mae pethau’n mynd ar y bryniau. Ond fe drïwn ni eto yn 2017!
Where did we get to in 2016?
Mae’r map yn dangos lleoliadau lle buon ni’n gweithio yn ystod 2016. Mae ambell
un dros y ffin yn Lloegr, ond maent yn bennaf yn Ne a Gorllewin Cymru. Eleni,
gwelsom leihad syfrdanol yn nifer y prosiectau oedd yn ymwneud ag ynni
adnewyddiol, effaith y newid ym mholisi’r llywodraeth yn San Steffan, ond cynnydd yn
y nifer oedd yn cynnwys elfen o gloddio. Da gweld dychweliad prosiectau cymunedol a
dehongli treftadaeth eleni eto, ar ôl cyfnod tawel yn y meysydd hynny i ni.
(English) Dyfed Gravel Tempered Ware
Caer Rufeing Honedig ym Mhowys
Chwilio am dystiolaeth caer Rufeing honedig ym Mhowys heddiw. Cerdded y tir i chwilio am unrhyw olion perthnasol.
Mosaig Banwen
Diwrnod o weithio yn Banwen, ger Castell Nedd heddiw yn agos i Lwybr Sarn Helen a’r mosaig hyfryd yma yn y pentre.
Cyfraith Treftadaeth Newydd
Tybed os fydd y bil treftadaeth newydd yn diogelu adeiladau poblogaidd a phwysig fel hyn pan ddaiff i rym ym Mis Mai?https://t.co/bfzHfXd91b
Ymgynghorwyr Treftadaeth yng Nghymru
Rydym yn cynnig amryw o wasanaethau treftadaeth ac archaeolegol.
Am fwy o wybodaeth gweler y dudalen Gwasanaethau.
Dehongli Treftadaeth
Gallwn ni helpu i ddarparu paneli, taflenni, cynlluniau dehongli ac ymchwil.
Am rhagor o wybodaeth gweler y dudlan Gwasanaethau.
Gwasanaethau Cynllunio
Rydym yn cynnig gwasanaethau i gefnogi cleieantiaid gyda’u ceisiadau cynllunio.
Am fwy o wybodaeth gweler y dudalen Gwasanaethau.
Grwpiau Cymunedol
Rydym yn cynnig cymorth proffesiynol a chyngor i helpu cymunedau wireddu eu cynlluniau a gwneud y gorau o’u treftadaeth.
Am fwy o wybodaeth gweler y dudalen Gwasanaethau.
Cysylltwch â Ni
Mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod unrhyw prosiectau sy’n ymwneud â threftadaeth neu archaeoleg, neu faterion cynllunio, sydd gyda chi.
Ewch i’r dudalen ‘Cysylltwch â Ni’.