Mae blwyddyn arall yn tynnu at ei diwedd a’r amser wedi dod i fwrw golwg ‘nôl dros y 12 mis sydd wedi pasio oddi ar ein cylchlythyr diwethaf.
Blwyddyn o ddod i arfer â llwyth o ganllawiau a deddfau newydd oedd hon yng Nghymru – tasg sydd wedi gofyn am gryn ymdrech. Mae Trysor wedi cario ymlaen yn dawel bach, yn y cefndir, yn mwynhau’r haf gorau a welsom erioed, o Fis Mai nes Mis Awst. Uchafbwynt ein blwyddyn oedd cael lwmpyn o slag haearn a dyddiad radiocarbon o’r Oesoedd Tywyll allan o ffos yn Sir Drefaldwyn.
Tra bod pethau bach syml fel hynny yn ein diddanu ni, mae Brexit wedi perchnogi’r penawdau, dreigiau wedi nythu yng nghestyll enwocaf Cymru a sibrydion wedi codi’n ddiweddar am ddarganfyddiad cerbyd rhyfel Celtaidd yng nghanol cae wedi siglo’r seiliau yn Sir Benfro, ond rydym yn siŵr o glywed mwy am y stori hon yn ystod 2019.