Wel, dyna oedd 2022…

Mae'r llun yn dangos platfform gwrthglawdd yng Nghwm Elan..

Llwyfan gwrthglawdd yng Nghwm Elan

Mae bron yn ddiwedd blwyddyn arall, ac rydym yn myfyrio ar y lleoedd yr ydym wedi bod a’r cysylltiadau â’r gorffennol yr ydym wedi’u harchwilio. Wrth i Covid gilio fe wnaethon ni ddychwelyd i ryw fath o normalrwydd. Darllenwch ein cylchlythyr i ddarganfod mwy a dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi.

Coronavirus

Yng ngolwg canllawiau diweddara’r llywodraeth rydym yn atal pob gwaith maes am y tro. Byddwn yn dal i weithio o gartre i gynnig ein gwasanaethau archaeolegol. Aros gartre yw’r ffordd orau o atal y clefyd hwn a dychwelyd i normalrwydd. Rhaid rhoi diogelwch o flaen popeth arall!

post

Ysgolion

The red brick buildings at Cwrt Sart being demolished

Cwrt Sart School being demolished.

Dim ymddiheuriadau, ond eleni rydym wedi trio tynnu sylw at yr angen i ofalu ar ôl hen ysgolion ein gwlad, sydd yn diflannu yn gyflym, yn aml heb i neb wneud cofnod ohonynt. Mae ysgolion yn  adeiladau cymunedol pwysig iawn Cwrt Sart ac o safbwynt eu lle yn ein hanes, diwylliant a threftadaeth. Tynnwyd ein sylw at y mater pan gafodd hen ysgol Cwrt Sart, Llansawel, Castell Nedd ei bwrw i lawr yn ddisymwth. Cysyllton ni â Bethan Sayed AC, aelod cynulliad lleol, ac fe aeth hi ymlaen i godi’r mater gyda Cadw a Gweinidog Treftadaeth Cymru. Yn sgil hynny, gwnaethom gario allan arolwg ffotograffig gwirfoddol o Ysgol Cymer Afan, yn agos i Port Talbot, fel yr oedd contractwyr yn dechrau’r gwaith o ddymchwel yr adeiladau i gyd. Gallwch Cymer Afan ddisgwyl i ni ddychwelyd at y pwnc eto yn ystod y flwyddyn i ddod, trwy @YsgolWales ar Twitter!

post

Blwyddyn Newydd Dda i Bawb!

Mae blwyddyn arall yn tynnu at ei diwedd a’r amser wedi dod i fwrw golwg ‘nôl dros y 12 mis sydd wedi pasio oddi ar ein cylchlythyr diwethaf.

Blwyddyn o ddod i arfer â llwyth o ganllawiau a deddfau newydd oedd hon yng Nghymru – tasg sydd wedi gofyn am gryn ymdrech. Mae Trysor wedi cario ymlaen yn dawel bach, yn y cefndir, yn mwynhau’r haf gorau a welsom erioed, o Fis Mai nes Mis Awst. Uchafbwynt ein blwyddyn oedd cael lwmpyn o slag haearn a dyddiad radiocarbon o’r Oesoedd Tywyll allan o ffos yn Sir Drefaldwyn.  

Tra bod pethau bach syml fel hynny yn ein diddanu ni, mae Brexit wedi perchnogi’r penawdau, dreigiau wedi nythu yng nghestyll enwocaf Cymru a sibrydion wedi codi’n ddiweddar am ddarganfyddiad cerbyd rhyfel Celtaidd yng nghanol cae wedi siglo’r seiliau yn Sir Benfro, ond rydym yn siŵr o glywed mwy am y stori hon yn ystod 2019.

post

Blwyddyn Newydd Dda

Mae blwyddyn arall wedi pasio ac mae Trysor wedi addasu i’r holl newid sydd wedi dod o fewn y 12 mis diwethaf. Cofiwn am 2016 am nifer o resymau ar wahân i’r golled o nifer o enwogion a sêr. Ym Mis Gorffennaf, symudodd Paul ac
Ann o Sir Benfro i wneud eu cartre newydd yn ardal Castell Nedd. Mae hyn yn golygu bod dau bartner Trysor Bellach yn byw yn yr un sir – Castell Nedd a Phort
Talbot! Fe all hyn olygu taw Trysor yw partneriaeth treftadaeth flaenaf (unig) y sir! Pwy sy’n gwybod?

Eleni daeth elfennau o’r Bil Treftadaeth newydd i Gymru i rym, ond bydd rhaid aros i weld effaith hynny ar y sectortreftadaeth. Ansicrwydd yw prif nodwedd y flwyddyn o bosib, gyda Brexit yn dominyddu’r newyddion a newidiadau polisi’r llywodraeth yn San Steffan yn effeithio maes ynni adnewyddiol ac yn achosi cwymp yn y nifer o gynlluniau gwynt neu ynni’r haul o gwmpas Cymru. Rhaid
gobeithio daw mwy o eglurdeb yn 2017!

Beth bynnag addaw, dymunwn bob llwyddiant i bob un ohonoch!

Blwyddyn Newydd Dda i bawb!

snow1

post

Sir Frycheiniog

Yn ystod yr haf, buom yn gwerthuso effaith dau brosiect ynni hydro yn yr hen Sir Frycheiniog, ger Crai a Llangatwg. Roedd y ddau brosiect yn cynnwys cloddio ar draws hen dramffyrdd. Ar safle Llangatwg bu’n rhaid cloddio hen wal guddiedig yn ymyl safle Fferm y Cwm, fferm sydd wedi dadfeilio ers dros 150 mlynedd., Yno, daethom ar draws crochenwaith o’r 18fed a 19eg ganrif a darnau bach o blwm oedd, o bosibl, yn gysylltiedig â gwneud peletau plwm ar gyfer gynnau saethu.Cnewr

post

Alberbury, Shropshire

Ym Mis Gorffennaf gawsom y pleser o ddychwelyd i bentre Alberbury, Swydd
Amwythig i gloddio o fewn gardd furog plas Parc Loton, lle ganfûm olion tŷ canoloesol. Ymhlith ein darganfyddiadau oedd dwsinau o hoelion haearn, darn o ganhwyllbren bres a phin clogyn syml. Dyddiad radiocarbon y safle oedd rhwng
1410 a 1445 OC.

loton-pinloton-nails

Llanarthne

eglwys-llanarthneYm Mis Ebrill 2016, buom ym mhentre Llanarthne, Sir Gâr yn gwerthuso safle ar bwys hen ysgol y pentre. Allan o’r ffos ddaeth cryn dipyn o ddarnau o lo mân, yn ogystal â sbwriel yr ysgol Fictorianaidd, sef llechi ysgrifennu oedd wedi torri, pin ysgrifennu a phot inc.

llanarthneysgol-llanarthne

Eglwys Holy Cross, Taibach, ger Margam

holy-cross1

Fe gaewyd Eglwys y Groes, Taibach, Port Talbot rhai blynyddoedd yn ôl. Bu’n eglwys heb gyfeillion am gyfnod, ond ar ôl siarad am droi’r hen le imewn i dy annedd, camodd teulu â chysylltiadau â’r achos i mewn a
addasu i fod yn Gapel Gorffwys. Cawsom gyfle i gofnodi’r adeilad, tu fewn a tu fas a dysgu rhywbeth am hanes pentre Taibach, sydd wedi cael ei torri’n ddwy gan yr M4 erbyn hyn.

holy-cross-3

Anrhufeinig

No sign of a Roman fort

Clawdd Coch

Ym mis Mawrth 2016 buon ni yn ardal Llanymynech, Powys, yn chwilio am olion gaer Rufeinig honedig ar fferm leol. Ar ôl astudio ffynonellau hanesyddol, gwneud arolwg geoffisegol, cerdded y tir ac agor nifer o ffosydd, daethom i’r casgliad nad oes unrhyw dystiolaeth o gwbl am Gaer Clawdd Coch.

 

 

Mosaig Banwen

Mosaig Banwen

 

Mis yn ddiweddarach, ym Manwen, ger Castell Nedd, roeddem yn gyfrifol am gario allan brîff gwylio i chwilio am yr heol Rufeinig i Aberhonddu ‘chwaith. Er nad oedd sôn am yr heol Rufeinig, fe welsom fosaig hyfryd yn y pentref sy’n cofnodi’r presenoldeb gaer a’r ffordd Rufeinig yn yr ardal.

Cydweli

Castell CydweliWrth i’r gwanwyn dechrau cynhesu, treulion ni peth amser yn gweithio yn hen dref Cydweli, Sir Gâr, yn asesu effaith bont cerdded arfaethedig dros yr Afon Gwendraeth Fach ar gastell enwog y dref.

Llangynnwr

Rydym ar hyn o bryd yn paratoi 7 panel dehongli treftadaeth a thaflen ar gyfer
pentref Llangynnwr, Sir Gaerfyrddin, ar y cyd gyda’r dylunwyr Phil Wait ac Alan
Williams. Bydd y paneli yn olrhain hanes yr ardal. Mae hanes y fro yn yn
gyfoethog iawn ac yn cynnwys hanes yr eglwys plwyf hynafol, y gerdd enwog
“Llangunnor Hill”, straeon am y Rhufeiniad, mwynglawdd plwm ac hyd yn oed
gwaith daeregwyr cynnar a ddaeth yma i astudio trilobites yn gynnar yn y
19eg ganrif.

Yr olygfa o’r bryniau…

elan-walk-1Er bod gwaith Menter yr Uwchdiroedd wedi dod i ben, rydym yn dal i ymddiddori cymaint ag erioed yn
archaeoleg a thirwedd mynyddoedd Cymru. Ym Mis Gorffennaf, i nodi Gŵyl Archaeoleg 2016, roedd Trysor wedi cynnal dau ddigwyddiad, sef Taith Gerdded i Lyn Gynon, Elenydd a Phicnig Archaeolegol ym Mhont ar Elan, Dyffryn Elan.

picnic

 

 

Tra oedd y daith gerdded wedi mwynhau diwrnod hyfryd , daeth glaw diflas i sbwylio ‘r picnig ac roedd rhaid gohirio’r digwyddiad.. Fel ‘na mae pethau’n mynd ar y bryniau. Ond fe drïwn ni eto yn 2017!

Where did we get to in 2016?

Prosiectau yn 2016

Prosiectau yn 2016

Mae’r map yn dangos lleoliadau lle buon ni’n gweithio yn ystod 2016. Mae ambell
un dros y ffin yn Lloegr, ond maent yn bennaf yn Ne a Gorllewin Cymru. Eleni,
gwelsom leihad syfrdanol yn nifer y prosiectau oedd yn ymwneud ag ynni
adnewyddiol, effaith y newid ym mholisi’r llywodraeth yn San Steffan, ond cynnydd yn
y nifer oedd yn cynnwys elfen o gloddio. Da gweld dychweliad prosiectau cymunedol a
dehongli treftadaeth eleni eto, ar ôl cyfnod tawel yn y meysydd hynny i ni.