Image shows an earthwork platform in the Elan Valley.

Llwyfan gwrthglawdd yng Nghwm Elan

Dros y 15 mlynedd diwethaf rydym wedi treulio dros 30 wythnos yn cerdded Stad Cwm Elan a chofnodi ei harchaeoleg ac wedi dod i adnabod y rhan fwyaf o’r ardal yn dda iawn.

Yn 2009/2010 a 2011/2012 fe wnaethom gynnal arolygon maes o’r ardaloedd i’r gogledd-orllewin o’r cronfeydd dŵr ar gyfer CBHC fel rhan o’r cynllun Arolwg Menter yr Uwchdiroedd. Bwriad yr ymarfer hwn o gerdded maes oedd i gofnodi unrhyw nodweddion archaeolegol y gellir eu hadnabod ar wyneb y ddaear, gan gynnwys safleoedd fel carneddau claddu o’r Oes Efydd, llwyfannau cytiau canoloesol, bythynnod ôl-ganoloesol a nodweddion yn gysylltiedig â dyfodiad y cronfeydd dŵr ar ddiwedd y 1890au. Daethom o hyd i lawer o safleoedd nad oeddent wedi’u cofnodi o’r blaen. Mae dolenni i gopïau o’n hadroddiadau wedi’u cynnwys isod, a thrwy chwilio ar NPRN (Rhif Cofnodi Sylfaenol Cenedlaethol) pob safle ar Coflein gallwch weld unrhyw luniau a dynnwyd ohonynt.

Gogledd Elenydd Rhan Un (Saesneg) a Gogledd Elenydd Rhan Dau (Saesneg)

Elenydd Ganol Rhan Un (Saesneg) ac Elenydd Ganol Rhan Dau (Saesneg)

De Elenydd Rhan Un (Saesneg) a De Elenydd Rhan Dau (Saesneg)

Cwm Ystwyth Cwm Mwyro Rhan Un (Saesneg) a Cwm Ystwyth Cwm Mwyro Rhan Dau (Saesneg)

Er mwyn i ni allu rhannu’r hyn yr oeddem wedi’i ddarganfod, cynigon ni deithiau cerdded tywysedig blynyddol am ddim i Ymddiriedolaeth Cwm Elan yn ystod wythnosau’r Ŵyl Archaeoleg cyn cyfnod Cofid-19.

Buom,hefyd, yn helpu gyda gwaith yng ngwaith mwynglawdd Cwm Elan, gan gloddio pyllau prawf bach i sicrhau na fyddai’r archaeoleg yn cael ei niweidio pan fyddai atgyweiriadau’n cael eu gwneud. Fe wnaethom hefyd gynnal cofnod adeiladu o’r adeiladau yng Nghwm Clyd cyn iddynt gael eu haddasu.

Efail Mwynglawdd Cwm Elan (Saesneg)

Pwll Olwyn Mwynglawdd Cwm Elan (Saesneg)

Cofnod Adeilad Lefel 2 Cwmclyd (Saesneg)

Byngalo Cwmclyd (Saesneg)

Yn 2016 a 2017 fe wnaethom chwarae rhan yn natblygiad yr hyn a ddaeth yn brosiect Dolenni Elan a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Fe wnaethom ni ddisgrifio nodweddion tirwedd ardal Ymddiriedolaeth Cwm Elan gan edrych ar yr hyn sy’n gwneud ardaloedd o’r dirwedd yn arbennig a chynhaliwyd Arolwg Treftadaeth Mewn Perygl yn ogystâl, gan wirio’r cofnod archaeolegol ynghylch pa safleoedd a allai gael eu difrodi.

Dolenni Elan Datganiad o Arwyddocâd (rha o’r cais i’r Loteri Genedlaethol)

Dolenni Elan: Nodweddion Tirwedd Elan (Saesneg)

Dolenni Elan: Treftadaeth Dan Fygythiad Rhan Un (Saesneg)

Dolenni Elan: Treftadaeth Dan Fygythiad Rhan Dau (Saesneg)

Ar ôl hynny, fel rhan o gynllun Dolenni Elan, buom yn archwilio safle Maen Hir, carnedd Carn Ricet a lloc yn Lluest Abercathon.

Maen Hir – crynodeb o’r gwaith eto i ddod ond dyma ddolen i sgwrs a gawsom ar-lein am y safle

Carn Ricket Adroddiad (Saesneg) ac fe wnaethom roi cyflwyniad ar-lein

Gwerthuso Lloc Lluest Abercaethon (Saesneg) ac fe wnaethom roi cyflwyniad ar-lein

Y darn mwyaf o waith yr ydym wedi’i wneud o bell ffordd yw ailarolwg o ardaloedd i’r dwyrain ac i’r de o’r cronfeydd dŵr – 68 cilomedr sgwâr i gyd. Gohiriodd Cofid-19 ddechrau’r arolwg maes, a gwnaed y rhan fwyaf ohono yn 2022. Daethom o hyd i rai safleoedd anhygoel, a mwy na dyblu’r nifer a gofnodwyd. Mae ein hadroddiad ar gael isod mewn tair adran.

Dolenni Elan 2022-2023 Arolwg yr Uwchdiroedd (Saesneg)

Dolenni Elan 2022-2023 Rhan 2A Rhestr o Safleoedd (Saesneg)

Dolenni Elan 2022-2023 Rhan 2B Mapiau (Saesneg)

Fe wnaethon ni roi sgwrs yn Carad ar Hydref 2022, ar ôl i ni orffen y gwaith maes ,ac ateb cwestiynau wedyn.

Gallwch hefyd wylio’r sgwrs a roddwyd am yr arolwg i ysgol undydd a drefnwyd ar y cud gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys a Chyngor Archaeoleg Prydain Cymru ym mis Tachwedd 2023.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *