Oddeutu 1 o’r gloch ar brynhawn Rhagfyr 12fed, 1944, synnwyd trigolion Rhaeadr Gwy a’r cylch wrth weld awyren fomio Handley Page Halifax yn dod allan o’r cymylau uwchben y dref, yn amlwg mewn trafferth. Roedd yr awyren yn brwydro i godi uchder ac roedd rhannau ohoni’n torri i ffwrdd wrth iddi hedfan dros y dref. Ychydig yn ddiweddarach, am 1.03 o’r gloch, daeth yr awyren i lawr ar ben mynydd Penybwlch, i’r gorllewin o Raeadr Gwy, gyda llawer o drigolion y fro yn dyst i’r digwyddiad.
Yr awyren dan sylw oedd un o awyrennau bomio Llu Awyr Brenhinol Canada (RCAF), Halifax LL541. Roedd yn cymryd rhan mewn ymarferion hyfforddi y dydd hwnnw, o’i ganolfan yn RAF Dishforth, Swydd Efrog. Ei nod oedd hedfan allan i Fae Ceredigion ac yna dychwelyd i RAF Dishforth.
Ar y daith dyngedfennol honno, roedd gan LL541 saith aelod ei chriw rheolaidd, ynghyd ag un dyn ychwanegol. Roedd pob un o’r 8 yn Ganadiaid yn gwasanaethu yn yr RCAF, sef;
Pilot Officer Gerald Lister (Pilot), 22 oed.
Flying Officer Ernest Brautigam (Navigator), 19 oed.
Flight Sergeant David Levine (Bomb Aimer), 23 oed.
Flight Sergeant John Overland (Air Gunner), 19 oed.
Flight Sergeant Grant Goehring (Air Gunner), 21 oed.
Flight Sergeant James Preece (Wireless Operator/Air Gunner), 20 oed.
Sergeant Frank Willmek (Flight Engineer), 23 oed.
Flight Sergeant Allan McMurtry (Flight Engineer), 22 oed.
Mwy o fanylion am bob un o’r dynion yma
Mae’n bosibl mai F/Sgt McMurtry oedd yr aelod criw ychwanegol oedd yn hedfan gyda chriw LL541 y diwrnod hwnnw. Mewn llythyr gan dad yr F/Sgt Goehring at yr awdurdodau yn holi ar ôl teuluoedd cyd-aelodau criw ei fab, sonnir am bob un ar wahân i McMurtry yn awgrymu nad oedd yn aelod rheolaidd o’r criw.
‘Does neb yn gwybod pam y collodd Halifax LL541 reolaeth cyn dod i lawr ar y mynydd. Awgrymwyd y gallai’r peilot fod wedi dioddef o ddiffyg ocsigen a llewygu, gan achosi’r awyren i blymio a niweidio ffrâmyn yr awyren. Efallai ei fod wedi dod at ei hunan eto ac wedi ceisio adennill rheolaeth o’r awyren ond wedi methu â chlirio’r bryniau i’r gorllewin o Raeadr Gwy.
Daeth yr awyren i lawr yn drwm ar ochr ddeheuol Penybwlch, gan ladd pawb oedd ar ei bwrdd. Roedd tri o’r criw wedi llwyddo i neidio allan cyn y trawiad, ond ar uchder rhy isel iddynt agor eu parasiwtiau. Buont hwythau farw.
Cafodd yr awdurdodau eu rhybuddio gan yr heddlu lleol a daethant i’r lleoliad yn gyflym. Yn ystod yr wythnos ganlynol cafodd olion yr awyren eu symud o’r mynydd. Claddwyd y criw ym Mynwent Blacon, Caer, a oedd wedi’i dynodi’n Fynwent Ranbarthol i’r Awyrlu Brenhinol ym 1943. Maent yn gorwedd ochr yn ochr â bron i 400 o griwiau awyr eraill a fu farw yng ngorllewin Prydain yn ystod y rhyfel, hanner ohonynt yn gyd-Ganadiaid. Mae’r fynwent bellach yn Fynwent Rhyfel y Gymanwlad a gynhelir gan Gomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad.
Heddiw, does fawr ddim i nodi safle damwain Halifax LL541. Mae yna graith hir ar ochr y bryn. sy’n nodi’n glir yn man gwnaeth yr awyren plymio i’r ddaear, ond nid oes cofeb arall yno i’r 8 o Ganadiaid ifanc, dewr a ddaeth i ymladd dros ein rhyddid a gwneud yr aberth eithaf.